Yn dilyn yr arddangosfa sêr ddiwethaf yr ardd ym mis Ionawr, mae Cymdeithas Astroleg Abertawe’n dychwelyd i’r Ardd Fotaneg ar gyfer noson arall o wylio.

“Y tro diwethaf, roedden ni’n ddigon ffodus i gael noson glir, berffaith, ac r’yn ni’n gobeithio cael yr un peth eto,” meddai Cadeirydd y Gymdeithas, Brian Spinks.

“Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn cynnig amgylchedd ‘dywyll’ wych, ac r’yn ni’n edrych ymlaen at noson arbennig arall.”

Yn ogystal â gwylio’r sêr, y planedau a’r lleuad, bydd y Gymdeithas yn siarad ag ymwelwyr am delesgôpau o gyfnod Isaac Newton hyd heddiw. Hefyd, bydd aelodau’r gymdeithas yn cynnal clinig telesgopau, er mwyn helpu astrolegwyr y dyfodol i gael y gorau o’u hoffer.

“Annog plant”

Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr Ardd wrth Golwg360 y byddai’r noson yn apelio at “bawb”, gan gynnwys plant:

“R’yn ni eisie annog pobol ifanc i weld y gofod a’r sêr yn eu holl ogoniant. Efallai mai diddordeb y plant hyn yn y gofod fydd y dyfodol.