Mae angen ystyried barn y Comisiynydd Plant yn Lloegr am achos James Bulger – heb refru a gweld bai. Dylan Iorwerth yn dadlau tros drin, nid cosbi.
Person dewr sy’n mentro rhoi barn ar achos Jon Venables a James Bulger. Yn enwedig os ydi’r farn honno’n wahanol i refru’r papurau pengoch.
Doedd dim syndod felly bod sylwadau’r Comisiynydd Plant yn Lloegr wedi achosi cynnwrf mawr ym mrig y tabloids.
Doedd hi’n ddim syndod chwaith eu bod nhw wedi ystumio’r hyn ddywedodd Maggie Atkinson am yr achos unigol ac am godi’r oed ar gyfer erlyn plant o 10 i 12.
Mewn achos fel hwn, fel yn hanes llofruddiaethau Soham, does dim modd ceisio cyflwyno dadl resymol na chodi cwestiynau yn erbyn y ‘farn gyffredin’.
Rhan o’r rheswm am hynny ydi euogrwydd. Ryden ni’n gwybod bod y llun oeraidd yna o’r plentyn bach yn cael ei dywys i’w farwolaeth yn symbol o elfen yn ein cymdeithas ni.
Dim osgoi
Hyd y dalltais i, doedd Maggie Atkinson ddim yn dweud y dylai Jon Venables a Robert Thompson fod wedi osgoi canlyniadau eu gweithredoedd.
Y cwestiwn mawr ydi, sut yr yden ni’n delio gydag achos o’r fath a beth sydd fwya’ tebyg o gadw’r plant rhag troseddu eto.
Gan mai methu â dilyn arferion cymdeithas wâr a wnaethon nhw, mae’n anodd gweld sut y gall eu cau nhw rhag dylanwadau llesol fod o unrhyw help.
Awgrym y Comisiynydd ydi fod eisiau delio gyda phlant mewn ffordd wahanol i bobol mewn oed ac nad ydi hi mor syml â dweud “Euog!” a “Cosbwch nhw!”
Dealladwy ond anghywir
Mae’n ddigon naturiol bod mam James Bulger, Denise Fergus, yn cael ei chynhyrfu a’i brifo gan yr holl sôn unwaith eto am lofruddion ei phlentyn bach.
Ond, ar wahân i gydnabod hynny a cheisio bod mor drugarog a charedig â phosib, does dim rhaid derbyn popeth y mae hithau’n ei ddweud chwaith.
Does dim rhaid cytuno gyda’i barn hi bod y ddau fachgen deg oed wedi troseddu fel oedolion na bod plant deg oed yn gallu bod yn ‘evil’.
Heb fynd i fyd y pechod gwreiddiol, beth yn union ydi ystyr disgrifiad fel yna? Beth sy’n gwneud i un person fod yn ddieflig, yn hytrach nag un arall?
Diffyg cariad
Mae’n debyg bod ymchwil ar blant bach amddifad yn Romania wedi dangos bod diffyg cariad a diffyg sylw creadigol yn eu misoedd cynta’n cael effaith parhaol ar allu ymenyddol y plant i ddelio gyda pherthnasau a chwestiynau moesol.
Dyna roi gwedd wyddonol ar yr hyn y mae’r rhan fwya’ o bobol yn ei synhwyro’n reddfol – mae magwraeth ac amgylchiadau’n allweddol.
Os ydi plant wedi’u codi mewn amgylchfyd moesol o drais a diffyg parch at bobol eraill, dyna fydd y meini prawf yn eu bywydau nhw.
Mi allwch ddadlau bod oedolion wedi cael y cyfle i gasglu’r wybodaeth a’r cefndir a’r ddealltwriaeth sy’n cywiro hynny ond nid plentyn dan 12 oed.
Pe bai’r gwaetha’n digwydd ac achos arall fel un James Bulger yn codi’i ben, beth wnaethen ni? Dilyn esiampl Jon Venables a Robert Thompson, neu chwilio am ffordd fwy meddylgar … ac anodd?