Mae car wedi llwyddo i deithio 250 milltir wedi’i yrru ar danwydd coffi.

Fe ddefnyddiodd werth mwy nag 11,000 o espressos i wneud y daith o Lundain i Fanceinion, gan aros pob 60 milltir am fwy o goffi.

Mae’r cerbyd bellach wedi ei enwi yn ‘car-puccino’.

Sut mae’n gweithio

Syniad y peiriannydd Jem Stansfield, cyflwynydd y sioe BBC1 Bang Goes The Theory, oedd trawsnewid car a brynodd am £400 ar wefan werthu eBay a’i gael i redeg ar baned.

Mae ffwrnais ym mŵt y car sy’n rhostio coffi i gynhyrchu anwedd. Mae’n bosib llosgi hwnnw wedyn i yrru’r car sydd wedi ei seilio ar VW Sirocco 1988.

Fe aeth taith Jem Stansfield ag ef o Ganolfan y BBC yn Llundain drwy Birmingham, Coventry a Crewe, gan dreulio 17 awr i wneud hynny. Tagfeydd trwm oedd ar fai, meddai Dermot Caulfield, golygydd y gyfres deledu.

Doedd rhai o’r papurau ddim mor sicr – roedd y car wedi torri i lawr bedair gwaith ry ffordd, meddai’r Daily Telegraph.

Y pwynt

Y syniad oedd dangos pa mor rhad a hawdd yw defnyddio cynnyrch gwastraff yn danwydd i geir.

Gyda chyllid o ddim ond £700 gan y BBC, fe lwyddodd Stansfield a grŵp o gynorthwywyr adeiladu’r cerbyd yn ei gartref yn Brighton.

Bydd y daith yn cael ei darlledu yng nghyfres newydd sioe deledu Stansfield. Mae honno’n dechrau Ddydd Llun nesaf.