Fe fydd y dyddiau nesa’n allweddol i glybiau Abertawe a Chaerdydd wrth iddyn nhw chwilio am ddyrchafiad o’r Bencampwriaeth.

Mae’r Elyrch yn wynebu Sheffield Wednesday yfory a West Brom ddydd Mawrth, un o ddim ond tri thîm sydd o’u blaenau nhw yn y tabl.

Yn ôl capten y clwb, Garry Monk, maen nhw’n dal i anelu at y timau uwch eu pennau ond yn canolbwyntio i ddechrau ar y gêm gartref ddydd Sadwrn.

Fe fydd Sheffield Wednesday yn sialens galed, meddai wrth wefan y clwb. “Maen nhw’n ymladd am eu bywydau ar y gwaelod felly mae’n rhaid i ni fod ar ein gorau.”

Y penwythnos diwetha’, fe lwyddodd Sheffield Wednesday i guro Leicester City, gwrthwynebwyr nesa’ Caerdydd a’r tîm sydd o’u blaenau yn y Bencampwriaeth.

Os bydd y Cymry’n ennill yng Nghaerlŷr, fe fyddan nhw’n codi uwchben Leicester City; os byddan nhw’n colli, fe allen nhw gwympo cyn ised â’r wythfed safle ac allan o’r llefydd ail-gyfle.

Gêm West Bromwich Albion fydd cyfle diweddara’ Abertawe i fesur eu hunain yn erbyn y timau gorau – ar ôl colli o fymryn dros y penwythnos i’r tîm uwch eu pennau, Nottingham Forest, fe fyddan nhw’n awyddus i daro’n ôl yn erbyn y clwb sy’n ail.

Llun: Garry Monk – anelu am y clybiau uwchben