Mae hyfforddwr Cymru wedi newid ei dactegau’n llwyr cyn y gêm fawr yn erbyn Iwerddon eleni.

Yn lle ymosod ar y Gwyddelod a dweud bod chwaraewyr Cymru’n eu casáu, mae Warren Gatland wedi ymddiheuro am hynny ac yn canmol pawb a phopeth.

Ar ôl iddo ef gael ei alw yn “warthog” gan un o gyn chwaraewyr Iwerddon ac ar ôl ymosodiadau ar gefnogwyr a stadiwm Cymru, mae’n dweud ei fod yn poeni y gallai pethau fynd yn rhy bell.

Ymddiheuro

Heddiw, mae papurau Iwerddon yn llawn o’r ffaith ei fod wedi ymddiheuro am ei sylwadau y llynedd.

“Roedd fy sylwadau’r llynedd yn ffôl; ro’n i wedi disgwyl y bydden nhw’n achosi peth pryder ond ges i fy synnu gan faint y pryder.

“Os gwnes i darfu neu ddigio unrhyw un, dw i o ddifri eisiau ymddiheuro am hynny,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg.

Canmol

Er ei fod wedi cael ei wthio o swydd hyfforddwr Iwerddon yn 2001, roedd “99%” o’i brofiadau wedi bod yn bositif, meddai.

Fe ganmolodd hyfforddwr presennol Iwerddon, Declan Kidney, a’r capten Brian O’Driscoll, sy’n ennill ei 100fed cap fory.

“Petaech chi yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwetha’ wedi bod yn dewis XV gorau’r byd, fe fyddai Brian O’Driscoll ynddo. Dyw hynny ddim yn hawdd o un o’r gwledydd Celtaidd.”