Mae’r heddlu wedi bod yn holi llanc ar ôl honiadau bod dyn gydag anawsterau dysgu wedi ei “boenydio i farwolaeth” gan griw o bobol ifanc.

Daethpwyd o hyd i David Askew, 64, yn farw y tu allan i’w gartref yn Hattersley, Manceinion, nos Fercher, ar ôl i’r heddlu gael eu galw yno.

Fe gafodd dyn 18 oed ei arestio neithiwr ynglŷn â’r farwolaeth ac mae’n cael ei holi am gyhuddiad posib o ddynladdiad.

Roedd yr heddlu’n ymateb i adroddiadau bod y criw ifanc yn creu “annifyrrwch” y tu allan i’r tŷ lle’r oedd David Askew yn byw gyda’i frawd Brian a’i fam fethedig Rose.

Cwyn am yr heddlu

Yn y cyfamser, fe ddaeth yn amlwg bod yr heddlu wedi cael rhybudd flynyddoedd yn ôl bod David Askew’n cael ei dargedu gan gangiau o bobol ifanc. Fe ddywedodd un cymydog ei fod wedi’i “boenydio i farwolaeth”.

Mae’r heddlu wedi cyfeirio’r honiadau hynny at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu. Mae Heddlu Manceinion yn mynnu eu bod wedi gwneud “popeth” o fewn eu gallu i ddiogelu David Askew.

Teyrngedau

Mae ei fam a chymydog wedi rhoi teyrnged i David Askew.

“’Dw i jest eisiau dweud bod David yn berson hapus iawn. Roedd o’n garedig a meddylgar ac yn ddyn cwrtais. Byddai’n fy helpu’n aml o gwmpas y tŷ a gyda siopa. Fyddai o ddim yn gallu brifo neb a doedd o byth yn gweld dim drwg yn neb.” – Rose Askew, ei fam.

“Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen am tua 10 mlynedd. Rydym wedi cwyno wrth yr heddlu a’r cyngor ac fe wnaethon nhw roi camerâu yn eu gardd gefn dair blynedd yn ôl.” – Avona Davies, 49, cymdoges.