Roedd cylchgrawn Golwg ym Mrwsel i weld hanes yn cael ei greu, wrth i’r Gymraeg gael ei defnyddio’n swyddogol am y tro cynta’ erioed yn Senedd Ewrop.
“Roedd hyn yn gosod y Gymraeg ochr yn ochr â’r holl ieithoedd eraill,” meddai Jill Evans, yr Aelod o Senedd Ewrop a ddefnyddiodd yr iaith yng Nghynhadledd Ieithoedd Lleiafrifol Grŵp Cynghrair Rydd Ewrop.
Yn ogystal â chyfieithu ei geiriau hi i rai o ieithoedd eraill Ewrop, roedd yr ieithoedd eraill hefyd yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg.
‘Hollol naturiol’
“Roedd e’n teimlo’n hollol naturiol yn y cyfarfod hefyd, nid yn unig i siarad Cymraeg ond i wrando ar y Gymraeg yn cael ei chyfieithu,” meddai ASE Plaid Cymru.
Wrth annerch y Gynhadledd fe ddywedodd yr ymgynghorydd iaith, Cefin Campbell, bod angen rhagor o gynllunio iaith, yn ogystal â deddfau.
“Dw i ddim wedi gweld digon o enghreifftiau o gynllunio ymarferol, gweithredol,” meddai. “Mae angen mwy na deddfwriaeth i sicrhau dyfodol ieithoedd.”
Y stori’n llawn o Frwsel yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg