Mae Cymru’n dal i ddiodde’ oherwydd diffyg cydweithio rhwng Llywodraethau Cymru a Phrydain mewn rhai meysydd.

Er bod pethau wedi gwella, yn ôl y Pwyllgor Materion Cymreig yn Llundain, maen nhw hefyd yn tynnu sylw at wendidau penodol ym meysydd iechyd, trafnidiaeth ac addysg uwch.

Dyma y mae’r Aelodau Seneddol yn ei ddweud:

• Mae’r diffyg cydweithio’n golygu ei bod yn anodd cymharu perfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a Lloegr. Mae’r gwendid hwnnw’n “ddifrifol a pharhaus”, medden nhw.

• Doedd yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau ddim wedi ystyried datganoli wrth greu strategaeth addysg uwch.

• Dyw’r Adran Drafnidiaeth yn Lloegr ddim yn rhoi digon o sylw i briffordd yr A483 – dyw’r rhannau sydd yn Lloegr ddim yn cael eu hystyried yn bwysig iawn, ond mae’n ffordd allweddol i Gymru.

Mae’r Adran Drafnidiaeth, meddai adroddiad y Pwyllgor, yn “golchi ei dwylo” o’r cyfrifoldeb strategol am ffyrdd ar draws y ffin.

Angen gweithredu – sylwadau’r Cadeirydd

“Mae’n amlwg bod gwell cysylltu yn digwydd rhwng Caerdydd a Whitehall, mewn meysydd lle’r oedd yn ddiffygiol,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Dethol, Hywel Francis.

“Mae’n rhaid i’r adrannau perthnasol yn Llywodraeth Gwledydd Prydain fynd i’r afael â’n pryderon ni a gweithredu i sicrhau nad yw pobol sy’n croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn cael gwasanaeth salach.”

Llun: Iechyd yw un o;r meysydd lle mae angen rhagor o gydweithio (Trwydded GNU)