Dyw heddluoedd Cymru a Lloegr ddim yn rhoi digon o sylw i ymddygiad gwrthgymdeithasol, meddai arolwg o’u gwaith.

Dydyn nhw chwaith ddim yn gallu trefnu gwybodaeth er mwyn cadw cofnod o bobol sy’n cael eu poeni’n aml neu o ardaloedd â phroblemau gwael.

Mae asesiad gan Arolygwyr y Gwasanaeth Heddlu – HMIC – yn dangos nad yw heddlu yn ymateb i bron chwarter y galwadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mewn 23% o achosion, doedd dim plismyn wedi dod ac mae’r cyhoedd yn gyffredinol yn anhapus ynglŷn â’r ymateb.

Achos Fiona Pilkington

Mae’r adroddiad yn fwy perthnasol oherwydd achosion fel rhai Fiona Pilkington (yn y llun) a oedd wedi ei lladd ei hun a’i merch Francecca ar ôl cael eu poeni am flynyddoedd.

Yn ôl Prif Arolygydd yr Heddlu, Dennis O’Connor, dyw’r rhan fwya’ o gyfrifiaduron yr heddlu ddim yn gallu cadw cofnod o bwy sydd wedi cwyno o’r blaen.

Roedd fel petai cleifion yn mynd i syrjeri ac yn gweld doctor gwahanol bob tro, meddai. Roedd angen gwell trefn ar yr holl heddluoedd.

Yn ôl yr Arolygydd, ffug yw’r llinell sy’n cael ei thynnu rhwng bihafio gwrthgymdeithasol a throseddau ‘go iawn’.

Adroddiad

Mae’r arolwg yn fath o adroddiad ar berfformiad y 43 heddlu sydd yng Nghymru a Lloegr, gan ganolbwyntio’n arbennig ar rai materion.

Roedd yna glod i heddluoedd yng Nghymru hefyd gyda Heddlu’r De ymhlith y pedair sydd wedi gwella fwya’.