Mae heddlu Llanelli wedi cael pwerau arbennig i ddelio gyda phroblemau heroin yn y dre’, gyda’r hawl i orfodi unrhyw un sy’n cael ei arestio am ddwyn i gymryd prawf cyffuriau.

Mae grymoedd tebyg eisoes ar waith yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam ond Llanelli fydd y dre’ gynta’ i weithredu’r cynllun ‘test on arrest’ yn llawn.

Os ydyn nhw’n bositif, fe fydd y troseddwyr honedig yn cael cynnig triniaeth ac, os byddan nhw’n gwrthod honno, fe allan nhw wynebu cyhuddiad arall am wneud hynny.

Yn ôl pennaeth yr heddlu yn y dre’, mae 60% o’r achosion o ddwyn yno’n ymwneud â dwyn i gael arian cyffuriau, a heroin yn benodol.

Yn ôl y Prif Arolygydd Steve Griffiths, mae’r dre’ wedi cael adnoddau ychwanegol i drin dioddefwyr, wrth baratoi am y grymoedd ychwanegol.

Y stori’n llawn a chyfarfyddiad gyda phrif werthwr heroin Llanelli – yn Golwg, Mawrth 11