Yr her fwyaf i’r rheiny sy’n ceisio cyfartaledd i ferched ar draws y byd, yw taclo byd addysg, yn ôl ymgyrchydd o Gymru. Mae Luned Jones yn gweithio i Oxfam Cymru.

“Mae 70 miliwn o blant yn y byd sydd ddim yn derbyn addysg gynradd,” meddai, “ ac mae dwy ran o dair o’r rhain yn ferched. Mae addysg yn fan cychwyn i adeiladu, datblygu a gwella bywyd.

“Mae gan ferched flaenoriaethau gwahanol iawn i ddynion. Mae merched yn gofyn am ffordd wahanol o ddelio gyda phroblemau, er mwyn creu cymdeithas decach.”

Bwriad Diwrnod Rhyngwladol Merched (8 Mawrth) yw dathlu’r rhan y mae’r ferch yn ei chwarae ym mywyd heddiw. Thema’r diwrnod yng Nghymru eleni yw ‘Hyrwyddo Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a Gwleidyddol’.

Gweinidog yn ymuno â grŵp merched

Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod drwy ymuno â grŵp o ferched yn Sblot.

Mae ‘Merched yn gwneud Gwahaniaeth’ yn cynnal cyrsiau ennyn hyder a sgiliau er mwyn helpu merched wneud cyfraniad i’w cymunedau.

Rhaglen bum niwrnod y mudiad, ‘Newid Agweddau’, yw’r cam cyntaf mewn cynllun ehangach i annog merched, yn arbennig y rhai sy’n cael eu gadael allan o benderfyniadau oherwydd hil, anabledd, oedran neu statws cymdeithasol, i leisio’u barn.

“Gan fy mod yn ddyn, efallai ei bod yn ymddangos yn rhyfedd fy mod wedi ymuno â grŵp o fenywod i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod,” meddai Carl Sargeant, Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth y Cynulliad. “Ond mae’n fraint cael gwneud.”

Arian i ddathlu

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi £30,000 i helpu deuddeg sefydliad ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys ‘Merched yn gwneud Gwahaniaeth’, i ddathlu’r achlysur.

Eisoes, mae asiantaeth dros ddatblygiad economaidd merched yng Nghymru, Chwarae Teg, wedi trefnu tair sesiwn lle y gall merched yng ngogledd orllewin a de Cymru ddod ynghyd i drafod pynciau o bwys.

Mae nifer o ddigwyddiadau’n digwydd ar hyd a lled Cymru. Am restr go lawn ohonyn nhw, ewch i wefan www.cymruwomen.org.uk/events.htm