Bydd cyn-gapten Cymru a’r Llewod, Gareth Thomas, yn dechrau ar ei yrfa newydd gyda thîm rygbi’r gynghrair y Crusaders yr wythnos hon.

Doedd Thomas ddim yn bresennol i wylio ei dîm newydd yn colli 46-12 yn erbyn Warrington Wolves ddoe.

Ond mae disgwyl iddo ymarfer gyda nhw yr wythnos hon, cyn chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn y Catalan Dragons ar 12 Mawrth yn Wrecsam.

Mwy o chwaraewyr

“Fe fydd Gareth yn rhoi hwb i ni, ac r’yn ni’n awyddus i ychwanegu cwpwl o chwaraewyr eraill at y garfan eto,” meddai Brian Noble, hyfforddwr y Crusaders.

Dywedodd Gareth Thomas ei fod yn edrych ‘mlaen am her arall yn ei yrfa yn ogystal â chael y cyfle i hyrwyddo rygbi yng ngogledd Cymru.