Mae’r wefan prisiau tai, Mouseprice, yn dweud bod prynu tŷ yn un o strydoedd drutaf Cymru yn costio £600,000. Ond mae prynu tŷ yn un o ddeg stryd ddrutaf Llundain yn costio pum miliwn.

Y rhestr o’r brig i’r gwaelod yw:

1. Llundain Fawr £5,545,900
2. De Ddwyrain Lloegr £3,368,060
3. Dwyrain Lloegr £1,768,880
4. Gogledd Orllewin Lloegr £1,674,130
5. De Orllewin Lloegr £1,347,080
6. Gorllewin Canolbarth Lloegr £1,058,040
7. Swydd Efrog a’r Humber £1,003,170
8. Dwyrain Canolbarth Lloegr £856,050
9. Gogledd Ddwyrain Lloegr £820,200
10. Cymru £676,320

Dydi’r drefn ddim wedi newid ers rhestr y llynedd.

Strydoedd drutaf Cymru

1. Llys Helyg Llandudno £815,800
2. Marine Drive Llandudno £753,800
3. Twyncyn Dinas Powys £736,700
4. Cefn Coed Road Caerdydd £703,600
5. Cefn Mably Park Llanfihangel Y Fedw £647,300
6. Cliffside Penarth £642,600
7. Coombe Lea Catffrwd £630,700
8. Dros Y Môr Penarth £623,100
9. Cefn Mably Road Llysfaen £606,400
10. Plymouth Drive Radur £603,200

Prisiau wedi cwympo

Yn ogystal â bod ar y gwaelod, mae gwerth y tai yn 10 stryd ddrutaf Cymru wedi cwympo.

Mae hyn hefyd yn wir am y tai yn Ne Ddwyrain Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Swydd Efrog a’r Humber, ond roedd gwerth tai’r gweddill ar y rhestr wedi cynyddu – gwelodd y stryd ddrutaf, Chester Square, Belgravia, Llundain, gynnydd o £300,000.

Mae tai ar gyfartaledd yn costio £6.6 miliwn yn Chester Square. Mae’r mwyafrif o dai yno yn gwerthu am tua £7 miliwn, ond mae tai wedi cael eu gwerthu am rhwng £12.2 miliwn ac £19.7 miliwn.

Mae preswylwyr wedi cynnwys y cyn Prif Weinidog, Margaret Thatcher, a phennaeth clwb pêl droed Chelsea, Roman Abramovich.