Byddai llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn dangos “ewyllys da” tuag at Lywodraeth o dan arweiniad y Blaid Lafur yn y Cynulliad fel rhan o agwedd “bragmataidd” tuag at ddatganoli.

Dyma oedd addewid David Jones, AS Gorllewin Clwyd ac un o lefarwyr y Torïaid ar Gymru, yng nghynhadledd Gymreig ei blaid yn Llandudno heddiw.

Dywedodd y byddai Swyddfa Cymru o dan Lywodraeth Dorïaidd yn “curo pennau at ei gilydd” yng Nghaerdydd a Whitehall os bydd angen er mwyn sicrhau bod y ddwy weinyddiaeth yn gwneud eu gwaith yn iawn.

Roedd Davd Jones wedi cyfarfod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ddiweddar, a oedd wedi dweud wrtho na fyddai newid llywodraeth yn San Steffan yn broblem i’r Cynulliad “cyn belled â bod ewyllys da ar y ddwy ochr.”

“Fe alla’ i sicrhau Carwyn Jones mai’r brif flaenoriaeth i Cheryl Gillan [cysgod-ysgrifennydd Cymru] ac i minnau fydd gwneud yr hyn sydd orau i bobl Cymru,” meddai David Jones.

“Fe fyddwn ni’n fwy na bodlon i estyn ewyllys da i Carwyn Jones a Llywodraeth y Cynulliad – ond, ar yr un pryd, fe fyddwn ni’n disgwyl ewyllys da yn ôl. Ac yn bwysicach, fe fydd pobl Cymru’n disgwyl hynny hefyd.”

Gan gydnabod y bydd gwahanol safbwyntiau ar ddatganoli, meddai:

“Rydym ni Geidwadwyr yn gwbl bragmataidd ynghylch datganoli. Ein hunig nod, fel bob amser, yw’r mater ymarferol a yw pobl Cymru’n cael eu llywodraethu’n well.”

Ar yr un pryd, ymosododd ar bolisi hirdymor Plaid Cymru o annibyniaeth i Gymru, gan bwysleisio y byddai’r Torïaid yn parhau’n Unoliaethwyr.

“Fe fyddwn ni’n gwrthwynebu fersiwn Plaid Cymru o ddatganoli cyhyd ag y bydd anadl einioes ynon ni,” meddai.

Llun: David Jones AS Gorllewin Clwyd, a Cheryl Gillan, cysgod-ysgrifennydd Cymru, wrth ei ochr