Mae dros 200 o bobl wedi cael eu lladd mewn gwrthdaro treisgar rhwng Cristnogion a Mwslimiaid yng nghanolbarth Nigeria.

Yn ôl newyddiadurwr o’r wlad, mae’n ymddangos iddyn nhw gael eu lladd â machetes ac mai merched a phlant oedd y mwyafrif.

Digwyddodd y gyflafan mewn pentref i’r gogledd o ddinas Jos, ac mae cannoedd o bobl wedi dianc i dalaith gyfagos.

Mae trais sectyddol wedi achosi miloedd o farwolaethau yn y rhan hon o Nigeria dros y 10 mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys tua 300 ym mis Ionawr.

Mwslimiaid oedd y mwyafrif o’r 300 a gafodd eu lladd bryd hynny, a’r gred yw bod yr ymosodiadau ar bentref Cristnogol y tro hwn yn ymgais i ddial.

Llun: Pentrefwyr yn claddu cyrff y meirw wedi’r ymosodiadau (AP Photo)