Bu farw tri o bobl – dau ddyn ac un ddynes – ar ôl disgyn o floc uchel o fflatiau yn Glasgow y bore yma.

Cafodd Heddlu Ystrad Clud eu galw i ddigwyddiad yn Springburn yng ngogledd-ddwyrain y ddinas am 8.40am.

“Roedd yr heddlu’n ymateb i adroddiad fod tri oedolyn, dau ddyn ac un ddynes wedi cael eu darganfod ar waelod bloc o fflatiau yn Petershill Drive,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Ystrad Clud.

“Mae’r heddlu wrthi’n delio â’r digwyddiad ar y safle.

“Mae ymchwiliadau’n parhau i geisio darganfod pwy yw’r tri pherson a bydd archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal i ddarganfod union achos eu marwolaethau.”

Ychwanegodd nad yw’r heddlu ar hyn o bryd yn credu fod amgylchiadau amheus i’r digwyddiad.

Mae blociau’r fflatiau yn Sprinburn hyd at 30 llawr o uchder, ac ar un adeg nhw oedd y fflatiau uchaf yn Ewrop.

Mae llawer ohonon nhw’n wag erbyn hyn, ac mae’r cyngor lleol yn y broses o’u dymchwel fesul tipyn.

Llun: Yr heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad yn Petershill Drive, Springburn, lle disgynnodd tri o bobl y bore yma (David Cheskin/Gwifren PA)