Fe fu gwrthdaro yn Athens heddiw rhwng heddlu a phrotestwyr treisgar oedd yn anhapus â chynlluniau’r llywodraeth i dorri gwariant.
Daeth tyrfa o 7,000 o bobol ynghyd er mwyn protestio yn erbyn y cynllun i godi trethi a thorri 8% oddi ar gyflogau yn y sector cyhoeddus.
Roedd ASau’n trafod y mesur ddrafft yn y Senedd ac mae disgwyl iddo gael ei basio er ei fod yn amhoblogaidd iawn.
Y tu allan roedd protestwyr yn ymladd gyda’r heddlu ac yn ymosod ar arweinwyr undebau llafur.
Wrth annerch y dorf, cafodd pennaeth GSEE, undeb mwya’r wlad, ei lusgo i ffwrdd yn gwaedu a gyda’i ddillad wedi’u rhwygo.
Ymosododd dynion ifanc mewn mygydau ar filwyr oedd yn gwarchod bedd y milwyr dienw yn Athens hefyd a thaflu cerrig at yr heddlu.
Cwrdd ag arweinwyr Ewrop
Yn y cyfamser roedd y Prif Weinidog, George Papandreou, yn cwrdd ag arweinwyr Ewropeaidd er mwyn ceisio ennill cefnogaeth ariannol i leihau argyfwng dyled y wlad.
Mae ei lywodraeth yn gobeithio arbed £14.4 biliwn eleni er mwyn lleihau’r diffyg ariannol.
Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddangos ei bod o ddifri ynglŷn ag arbed arian er mwyn annog y farchnad i fenthyg arian iddyn nhw ac ennill cefnogaeth gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.