Mae’r cyfarwyddwr teledu, Richard Lewis, yn dweud ei bod hi’n anodd cynhyrchu rhaglenni “caboledig” ar y teledu yng Nghymru’r dyddiau yma, oherwydd diffyg arian.
Mae hefyd yn feirniadol nad oes yna lawer o raglenni Cymreig ar y sgrin fach bellach.
Roedd Richard Lewis, cyfarwyddwr rhaglenni megis Halen yn y Gwaed, yn siarad â Golwg360 wrth i’r Lolfa baratoi i gyhoeddi ei hunangofiant.
Er nad yw’n beio neb am fethu â buddsoddi “fel yr oedden nhw”, mae’n dweud mai dramâu “ceiniog a dimau” sy’n cael eu gwneud bellach ar gytundebau rhad, fel eu bod nhw’n rhatach i’w hailddangos dro ar ôl tro.
‘Creadur ei ddydd’
Mae Richard Lewis hefyd yn feirniadol am y diffyg rhaglenni Cymreig eu naws sydd ar y teledu bellach, yn Gymraeg a Saesneg.
“Dwi wedi dod i’r casgliad bod teledu yn greadur ei ddydd,” meddai, “a bod cynnyrch gorau’r teledu ymysg llwch yr archifau.”
Fe gynhyrchodd Richard Lewis lu o raglenni a dramâu am faterion Cymreig, gan gynnwys: Y Palmant Aur, Halen yn y Gwaed, Nel, Dylan, a Nye.
Ond mae rhai ffilmiau o’r gorffennol, o’i waith ef ei hun, sydd bellach “ddim yn bosib eu dangos bron”, oherwydd bod y dechnoleg wedi newid cymaint.
Fe fydd hunangofiant Richard Lewis, Out of the Valley, yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth.