Mae’n ymddangos bellach y bydd y Mesur Iaith yn cael ei gyhoeddi o fewn y dyddiau nesa’.
Er bod y Llywodraeth wedi gorfod gohirio’r bwriad i wneud hynny heddiw, mae Golwg360 yn deall bod y ffordd yn glir bellach i symud ymlaen, efallai o fewn yr wythnos.
Roedd rhaid i’r Mesur gael ei glirio gan adrannau ac unigolion yn Llywodraeth Prydain yn Whitehall ac roedd hynny wedi digwydd yn rhy hwyr i gynnwys gosod y cyhoeddiad ar amserlen y Cynulliad yr wythnos yma.
Mae’r mater bellach wedi ei drosglwyddo i Swyddfa Llywydd y Cynulliad er mwyn rhoi amser ar ei gyfer.
Fe fydd y Mesur yn dangos sut yn union y mae’r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu’r hawl deddfu a gafodd trwy’r eLCO iaith; y disgwyl yw darpariaethau i greu swydd Comisiynydd Iaith ac i roi dyletswydd ar rai busnesau preifat i ddefnyddio’r iaith.
Fe fydd y Mesur yn cael ei astudio’n fanwl i weld a oes unrhyw newid wedi bod ar yr egwyddorion gwreiddiol wrth i’r ddarpar ddeddf fynd trwy’r felin wleidyddol.