Mae un o fanciau mwya’r byd wedi gweld cynnydd mawr yn ei elw – ac mewn taliadau bonws i rai o’i uchel swyddogion.

Fe lamodd elw sylfaenol HSBC 56% yn ystod y flwyddyn ddiwetha’, gan gyrraedd cyfanswm o £8.8 biliwn.

Er bod y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr yn dweud y byddan nhw’n gwneud heb daliadau bonws, fe fydd y banc yn talu tua £35 miliwn i bump o’i uchel swyddogion.

Fe fydd hynny’n cynnwys £9 miliwn i bennaeth yr adran fuddsoddi, Stuart Gulliver – roedd honno wedi codi ei helw o 148%.

Treth

Fe fydd y Llywodraeth hefyd ar ei hennill – o £234 miliwn, oherwydd y dreth unwaith ac am byth ar daliadau bonws.

Fe ddywedodd Cadeirydd y banc, Stephen Green, y bydden nhw’n dechrau clymu taliadau bonws wrth lwyddiant go iawn yn y tymor hir, yn hytrach nag elw unnos.

Fe ddywedodd y Prif Weithredwr, Michael Geoghegan, y bydd yn rhoi ei £4 miliwn o daliadau bonws i elusen.