Fe ddaeth yn amlwg y bydd chwaraewr canol cae Cymru ac Arsenal, Aaron Ramsey, yn methu gweddill y tymor ar ôl torri ei goes.

Y gobaith mwya’ yw y bydd yn chwarae eto o fewn tua chwe mis, ond does dim sicrwydd o hynny ar hyn o bryd.

Tros y Sul, roedd sylwebwyr yn dweud ei fod yn ddigon ifanc i ddod tros yr anaf yn gorfforol ond y gallai amharu ar ei hyyder.

Fe gafodd y Cymro Cymraeg 19 oed lawdriniaeth frys mewn ysbyty yn Stoke ac mae’n ymddangos bod honno’n llwyddiannus.

‘Rhy gynnar’

Mae’n parhau yn yr ysbyty ar hyn o bryd ar ôl i ddau asgwrn yn ei goes gael eu torri mewn tacl ddychrynllyd gan amddiffynnwr Stoke, Ryan Shawcross.

“Mae’r llawdriniaeth wedi llwyddo ond mae’n rhy gynnar i ddweud faint gymrith hi iddo wella”, meddai datganiad gan Arsenal. “Fe fydd Aaron yn sicr o golli gweddill y tymor.

“Mae ein meddyliau gydag Aaron ac mae pawb yn y clwb yn dymuno’r gorau iddo i ddychwelyd i chwarae cyn gynted â phosib.”

Fe fydd colli Ramsey yn ergyd i dîm Cymru – fe fyddai wedi bod yn chwaraewr allweddol yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Sweden nos Fercher ac mae’n cael ei ystyried yn un o gonglfeini’r tîm wrth baratoi am rowndiau cynta’ Pencampwriaeth Ewrop.

Dadl

Mae’r anaf wedi aildanio’r ddadl tros y ffordd y mae chwaraewyr Arsenal yn cael eu trin.

Mae’r rheolwr, Arsene Wenger, yn honni bod ei chwaraewyr yn cael eu targedu gan eu gwrthwynebwyr, ar ôl i ddau o’u chwaraewyr dioddef anafiadau tebyg yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Roedd Arsenal eisoes wedi colli Abou Diaby y tymor hwn, ac yn 2008 fe dioddef Eduardo anaf difrifol i’w goes a’i bigwrn. Mae nifer wedi cymharu anaf Ramsey i un Eduardo ac roedd chwaraewr rhyngwladol Croatia allan o’r gêm am flwyddyn.

Llun: Stori’r anaf yn y Sunday Mirror