Mae tua 45 o bobol wedi marw yn Ffrainc ar ôl i stormydd ffyrnig achosi difrod mawr yng ngorllewin Ewrop.

Fe ddaeth yn amlwg erbyn y bore bod pum person arall wedi marw yn ystod y storm – tri yn Sbaen, un yn yr Almaen a bachgen deg oed ym Mhortiwgal.

Ar hyn o bryd mae tua dwsin o bobol ar goll gyda 60 arall wedi’u hanafu yn sgil y storm sydd wedi cael ei galw yn Xynthia.

Roedd y gwyntoedd cryfion wedi cyrraedd cyflymder o tua 130 milltir yr awr wrth i’r storm effeithio ar Sbaen a Phortiwgal hefyd.

Ar hyn o bryd, mae ffigurau’r marwolaethau’n amrywio rhwng 45 a 50.

Miliwn heb ynni

Mae tua miliwn o bobol heb bŵer yn eu cartrefi, gyda chanolbarth Ffrainc a Llydaw wedi’u heffeithio gwaethaf ar ôl i afonydd orlifo.

Mae system drafnidiaeth Ffrainc wedi cael ei heffeithio hefyd gyda mwy na 100 o deithiau wedi cael eu canslo ym meysydd awyr y wlad a’r llifogydd yn atal trenau.

Dyma storm waethaf Ffrainc ers 1999 pan fu farw 90 o bobol.

Mae’r proffwydi tywydd yn dweud y bydd storm Xynthia yn gwanhau wrth iddi gyrraedd Denmarc.

Llun: Papur L’Express yn dweud stori’r llifogydd