Mae disgwyl y bydd Gordon Brown yn ceisio cynyddu’r pwysau ar y Ceidwadwyr heddiw gydag ymosodiad ar eu hagwedd at gyfraith a threfn.

Gyda’r arolwg barn diweddara’n dangos bwlch o ddim ond dau bwynt rhwng y Torïaid a Llafur, fe fydd y Prif Weinidog yn cyhuddo plaid David Cameron o ystumio’r ffigurau troseddu.

Fe fydd yn dweud eu bod yn ceisio codi ofn ymhlith y bobol – hyn ar ôl i’r Ceidwadwyr gael eu cyhuddo o gyhoeddi ffigurau camarweiniol yn ystod yr wythnosau diwetha’.

Fe fydd y polau piniwn nesa’n allweddol ar ôl i’r ddwy blaid fawr gynnal cynadleddau dros y penwythnos – Llafur Cymru yn Abertawe a’r Ceidwadwyr yn Brighton.

Ymgyrchoedd

Fe ddaeth hi’n gliriach beth fydd agweddau’r ddwy blaid wrth nesu at Etholiad Cyffredinol – y Ceidwadwyr yn cynnig chwech newid sylfaenol a Llafur yn dweud y byddai hynny’n newid er gwaeth.

Ddoe, fe geisiodd David Cameron ail-danio’i blaid ar ôl gweld eu sgôr yn yr arolygon barn yn syrthio’n gyson ers dechrau’r flwyddyn.

Fe ddywedodd ei bod yn “ddyletswydd wladgarol” i gael gwared ar Gordon Brown o rif 10 Downing Street er mwyn clirio’r “llanast llwyr” sydd wedi ei greu gan Lafur.

Llun: Gordon Brown a’i wraig, Sarah, yn y gynhadledd yn Abertawe (Gwifren PA)