Lloegr 16 Iwerddon 20
Mae Iwerddon wedi curo Lloegr mewn gêm agos yn Twickenham.
Ond mae pryder a fydd capten Iwerddon, Brian O’Driscoll, yn cael chwarae yn y gêm nesaf – sydd yn erbyn Cymru – oherwydd anaf i’w ben.
Mae amheuaeth fod O’Driscoll wedi cael ei daro yn anymwybodol ar ôl taro ei ben ar ben-glin ei gyd chwaraewr, Paul O’Connell.
Daeth y chwarae i stop am rai munudau cyn i’r capten, a oedd wedi bod yn gorwedd yn ddiymadferth ar lawr, gael ei gario o’r maes.
Fe ddaeth ar y cae wedi diwedd y gêm i ysgwyd llaw gyda’r chwaraewyr, ond yn ôl rheolau, os cafodd ei daro’n anymwybodol, fydd e ddim yn cael chwarae yn y gêm nesaf.
Fe fydd gweddill yr amheuon ynghylch dyfodol hyfforddwr Lloegr, Martin Johnson, ar ôl pefformiad diflas a diddychymyg arall.
Agos
Er i Iwerddon arwain am y rhan fwyaf o’r gêm, daeth Lloegr yn agos iawn at gipio’r fuddugoliaeth.
Rhoddodd gôl adlam Jonny Wilkinson y tîm cartref ar y blaen o 16 i 13 gydag ychydig llai na 10 munud o’r gêm ar ôl, ond fe groesodd y Gwyddel Tommy Bowe am ei ail gais ychydig funudau ar ôl hynny, a llwyddodd Ronan O’Gara efo’r trosiad.
Bowe, asgellwr y Gweilch, oedd wedi cael cais cynta’ Iwerddon hefyd. Roedd yna gais arall i Keith Earls ac fe gafodd Lloegr gais nodweddiadol, gyda’r prop Dan Cole yn gwthio trosodd gyda’r rhan fwya’ o’r pac y tu cefn iddo.
Er i’r Saeson fynd ati i ymosod yn galed, llwyddodd y Gwyddelod i ddal eu tir, a chynnal eu gobaith o fod yn bencampwyr y Chwe Gwlad am yr ail flwyddyn y olynol.
100 o gapiau
Fe enillodd prop Iwerddon, John Hayes, ei ganfed cap dros ei wlad yn y gêm. Fe yw’r Gwyddel cyntaf i ennill cymaint o gapiau, gan guro Brian O’Driscoll o un gêm.
Roedd y canolwr yn gobeithio cael ei ganfed yntau yn erbyn Cymru.
Llun: Pryder am Brian O;Driscoll