Preston 3 Caerdydd 0

Mae gobeithion Caerdydd o allu chwarae yn y gemau ail gyfle wedi cael ergyd arall heddiw, ar ôl colli’n drwm yn Preston.

Wedi’r gêm fe gyfaddefodd y rheolwr, Dave Jones, nad oedden nhw’n haeddu dim o’r ornest.

Roedd Caerdydd wedi gobeithio gwneud iawn am gael ei chwalu 6-0 yn Preston yn ystod y tymor diwethaf, ond collodd tîm y brifddinas o dair gôl i ddim.

Er i Preston gael eu cyfyngu i 10 dyn ar ôl i Paul Coutts gael ei anfon o’r cae, nhw oedd y tîm gorau o bell ffordd.

Jon ‘The Beast’ Parkin sgoriodd y ddwy gôl gyntaf, a’r eilydd Chris Brown gafodd y drydedd ar ôl 86 munud, wedi camgymeriad gan gôl geidwad Caerdydd, Peter Enckelman.

Mae tîm y brifddinas bellach yn chweched yn y Bencampwriaeth, y safle isaf ar gyfer y gemau ail gyfle.

Llun: Dave Jones – haeddu dim