Mae yna bryder am ddyfodol un o chwaraewyr mwya’ addawol Cymru ar ôl anaf dychrynllyd.
Fe gafodd Aaron Ramsey, y chwaraewr canol cae 19 oed, ei frifo’n ddrwg gan dacl yng ngêm ei glwb Arsenal yn erbyn Stoke.
Roedd hi’n ymddangos bod ei goes neu ei ffêr wedi ei thorri’n wael iawn pan aeth chwaraewr Stoke, Ryan Shawcross, tros y bêl.
Fe gafodd y gêm ei hatal am sawl munud wrth i’r staff meddygol gario’r Cymro Cymraeg ifanc oddi ar y cae, gyda masg ocsijen tros ei wyneb.
Roedd yr anaf yn edrych mor ddrwg fel bod y cwmnïau teledu wedi penderfynu peidio â dangos y lluniau eto.
Yn ôl sylwebyddion, roedd hi’n ymddangos bod coes Aaron Ramsey wedi troi ffordd chwith gan y dacl. Roedden nhw’n amau hefyd y gallai fod yn waeth oherwydd bod y Cymro wedi lled dynnu allan o’r dacl ar y funud ola’.
Dyma’r ail dro o fewn dau dymor i Arsenal fod mewn digwyddiad tebyg – y tro diwetha’ fe gafodd chwaraewr canol cae arall, Eduardo, ei frifo’n wael mewn tacl ddychrynllyd. Roedd hynny ar yr un dydd Sadwrn yn union yn 2008.
Fe gafodd Shawcross ei anfon o’r cae ar unwaith.