Abertawe 1 Peterborough 0
Mae’r felltith anafiadau wedi parhau i chwaraewr canol cae Abertawe Ferrie Bodde.
Ar ôl dim ond hanner awr yn ei gêm gynta’ ers dod yn ôl ar ôl chwe mis wedi ei anafu, fe gafodd ei gario o’r maes.
Mae’n ymddangos ei fod wedi anafu’r un ben-glin unwaith eto – yr ail dro i hyn ddigwydd.
Dyw hi ddim yn glir eto pa mor ddrwg yw’r anaf ond fe fydd yn cael sgan fory.
Fe gollodd Bodde’r rhan fwya’ o’r tymor diwetha’ oherwydd yr anaf ac fe gafodd ei frifo eto ar ôl dim ond ychydig funudau o chwarae ddechrau’r tymor yma.
Bu rhaid i’r chwaraewr canol cae arall, Darren Pratley, adael y cae hefyd ond fe lwyddodd yr Elyrch i ddal gafael ar dri phwynt ac ar eu pedwerydd safle.
12 gêm heb golli
Enillodd Abertawe o un gôl i ddim yn Stadiwm Liberty yn erbyn y tîm sydd ar waelod y Bencampwriaeth.
Cic o’r smotyn gan David Cotterill a roddodd y gôl i Abertawe yn erbyn Peterborough, ac mae’r fuddugoliaeth wedi parhau rhediad du guro’r Elyrch i 12 gêm.
Maen nhw bellach yn gyfforddus yn safleoedd y gemau ail gyfle ac fe aeth nifer o ganlyniadau eraill o’u plaid nhw – gan gynnwys cweir i Gaerdydd.