Erbyn diwedd prynhawn Sadwrn, roedd nifer y cyrff yn naeargryn Chile wedi i 122 ac roedd disgwyl llawer rhagor.

Erbyn hynny, roedd mudiadau dyngarol wedi dechrau crynhoi cymorth i fynd i’r ardal ynghanol y wlad lle’r oedd canolbwynt y daeargryn.

Mae yna ddisgrifiadau dramatig o gyflwr pethau yn ninas Concepcion a oedd o fewn tua 70 milltir – mae lorïau wedi syrthio i dyllau yn y ddaear, adeiladau ar dân a phobol wedi eu hanafu yn eistedd yn y strydoedd.

Mae cyflenwadau trydan a dŵr wedi eu torri mewn sawl man a does dim adroddiadau eto o rai o’r trefi a’r pentrefi llai.

Ofn tsunami

Y pryder mawr arall yw tsunami – mae rhybudd wedi ei roi i fwy na hanner cant o wledydd o amgylch y Môr Tawel, gan gynnwys Awstralia a Seland Newydd.

Yn ôl y Ganolfan Rybudd Tsunami, fe allai gymryd cymaint â 24 awr i’r don fawr deithio ar draws y cefnfor.

Roedd y daeargryn ei hun wedi ei deimlo gannoedd o filltiroedd i ffwrdd ac roedd adroddiadau am ddifrod sylweddol yn y brifddinas, Santiago, tua 200 milltir i’r gogledd.

Fe gafwyd adroddiadau am tsunami yn taro ynysoedd Juan Fernandez – ynysoedd Robinson Crusoe – ac yn achosi difrod yno. Mewn rhai llefydd roedd y don yn wyth troedfedd o uchder.

Trychineb

Fe gyhoeddodd yr Arlywydd Michelle Bachelet bod stad o drychineb mewn tair talaith ynghanol Chile ac fe apeliodd ar i bobol aros yn bwyllog.

Er bod y daeargryn tua’r pumed cryfa’ i gael ei gofnodi erioed – yn 8.8 ar raddfa Richter – mae’r colledion yn debyg o fod llawer is nag yn Haiti ddechrau Ionawr.

Mae systemau brys a chyfathrebu Chile yn llawer mwy soffistigedig ac mae llawer o adeiladau modern wedi eu codi i wrthsefyll daeargrynfeydd.

Llun: Gwraig yn eistedd y tu allan i olion ei chartref yn ardal Concepcion (AP Photo)