Yr Eidal 16 – 12 Yr Alban

Mae maswr yr Alban, Dan Parks, yn dweud eu bod wedi methu â manteisio ar gyfleon wrth iddyn golli yn erbyn yr Eidal yn y Stadio Flaminio.

Bellach, mae’r Sgotiaid wedi cwympo i waelod tabl y Chwe Gwlad ar ôl colli yn Rhufain o 16 i 12.

Dywedodd Parks fod yr Eidal wedi cymryd eu cyfleoedd, a bod y canlyniad yn “siom”, a hynny ar ôl iddyn nhw golli 17 pwynt yn y munudau ola’ yn erbyn Cymru.

‘Haeddu ennill’

Roedd hon yn fuddugoliaeth “anferth” meddai clo’r Eidal Marco Bortolam. “Rydyn ni’n ymladd yn galed bob wythnos yn erbyn timoedd gwell.

“Wnaethon ni ddim gwneud camgymeriadau, fe ddangoson ni y gallwn ni guro unrhyw un.

“Fe roddodd bob chwaraewr 100% am 80 munud, dyna pam mae’r fuddugoliaeth yn un wych.”

Methu cyfleoedd

Daeth yr Alban yn agos i groesi’r llinell gais ar adegau, ond dim ond o giciau cosb ac un gôl adlam gan Dan Parks a ddaeth â phwyntiau iddyn nhw.

Troed Mirco Bergamasco a roddodd fwyafrif o’r pwyntiau i’r tîm cartref hefyd, ond cais Pablo Canavosio yn hwyr yn yr ail hanner oedd y sgôr allweddol.

Dyma’r bedwaredd gêm allan o chwech i’r Alban ei cholli yn erbyn yr Eidal yn Rhufain, a dyma fuddugoliaeth gyntaf yr Eidal yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad ers saith gêm.

Llun: Sean Lamont, chwaraewr y Scarlets, yn cael ei daclo (Gwifren pA)