Mae Grŵp Bancio Lloyds wedi gwneud colled o £6.3bn yn ystod 2009 yn ogystal â chasglu dyledion drwg sydd werth £24bn.

Cael eu gwthio i brynu banc HBOS y llynedd sy’n cael y bai am bicil y banc a sefydlwyd i ddechrau gan Gymry o Sir Drefaldwyn.

“Mae etifeddiaeth HBOS yn pwyso’n drwm ar Lloyds, er bod y ffigurau yn dangos arwyddion o anogaeth”, meddai Richard Hunter o gwmni ariannol Hargreaves Lansdown.

Daw’r newyddion yma ddiwrnod ar ôl i Fanc Brenhinol yr Alban – yr RBS – gyhoeddi colledion o £3.6 biliwn.

Colled

Gyda’r trethdalwyr yn berchen ar 41% o Fanc Lloyds, fe gwympodd gwerth cyfrannau;’r cwmni i lawr 6% i 52 ceiniog – 22 ceiniog yn llai na’r pris a dalodd y Llywodraeth er mwyn achub y banc.

Gyda 27 miliwn o gyfrannau, mae hynny’n golygu bod y Llywodraeth wedi gwneud colled ar bapur o £5.9 biliwn.

Er gwaethaf y newyddion, mae disgwyl o hyd y bydd Banc Lloyds yn talu bonwsau o tua £200m i’w staff.

Ers prynu HBOS, mae Lloyds wedi torri 11.500 o swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf. Maen nhw hefyd wedi awgrymu y bydd mwy o swyddi’n cael eu colli ar ôl cynyddu eu targedau i arbed £2bn erbyn diwedd 2011.

Llun: Banc Lloyds (Gwifren PA)