Heddlu De Cymru yw’r diweddara’ i rybuddio rhag problemau trafnidiaeth yng Nghaerdydd oherwydd y gêm rygbi fawr heno.
Maen nhw’n poeni y bydd anawsterau’n codi wrth i ormod o gefnogwyr dyrru at rhy ychydig o drenau yn union wedi’r gêm.
Does yna ddim gwasanaethau trên ychwanegol i fynd â’r dyrfa ar ôl y gêm ac mae peryg y bydd pobol yn rhuthro tua’r orsaf.
Maen nhw’n llai tebyg o adael cyn y diwedd hefyd ar ôl i Gymru sgorio 17 pwynt yn y munudau ola’ i ennill eu gêm yn erbyn yr Alban.
Mae llefarydd ar ran Heddlu De Cymru wedi dweud wrth gefnogwyr rygbi i beidio â dibynnu ar y gwasanaethau trênau i fynd adref.
“Fydd yna ddim digon o drenau i’r holl gefnogwyr heno, felly r’yn ni’n argymell y dylen nhw ddod o hyd i fodd arall o deithio adref,” meddai Catherine Llewelyn o’r heddlu.
Rhybudd traffig hefyd
Fe fydd yna draffig trwm hefyd gyda rhybudd i yrwyr gychwyn ar eu teithiau yn gynt nag arfer.
“Fe fydd yn wahanol iawn i’r sefyllfa pan fydd gêm ar ddydd Sadwrn, gan fod cefnogwyr yn teithio i mewn i’r ddinas ar adegau amrywiol bryd hynny – maen nhw fwy ar wasgar”, nododd Catherine Llewelyn.
“Ond heno fe fydd yn wahanol iawn gan y bydd nifer fawr o gefnogwyr yn teithio ar yr un pryd gan gynyddu’r traffig mewn i’r ddinas”
“Bydd nifer o gefnogwyr yn cyrraedd ar yr un adeg ag y bydd pobol yn gadael eu gwaith, felly r’yn ni’n disgwyl i’r ffyrdd fod yn brysur iawn.”