Mae prisiau tai yng Nghymru wedi codi yn ystod y flwyddyn ddiwetha’, ac yn ystod y mis diwetha’ hefyd.
Ond mae’r ffigurau’n amrywio’n fawr o le i le, gyda rhai ardaloedd yn gweld gostyngiad yn y pris ar gyfartaledd.
Trwy wledydd Prydain hefyd, roedd yna gynnydd, yn ôl ffigurau swyddogol y gofrestrfa dir – cynnydd o 2.1% dros y mis a 5.2% dros y flwyddyn. Pris tŷ ar gyfartaledd yng ngwledydd Prydain bellach yw £165,088.
Yng Nghymru, roedd y cynnydd ychydig yn llai – 1.5% tros y mis a 3.1% tros y flwyddyn – gyda phris tŷ ar gyfartaledd yn £124,430.
Manylion o Gymru
O ardal i ardal, mae yna amrywiaethau mawr. Dyma rai o’r siroedd yng Nghymru sydd wedi gweld y newid mwya’:
Blaenau Gwent – tros y mis +0.4%; tros y flwyddyn +6.4%
Bro Morgannwg – tros y mis +1.2%; tros y flwyddyn -4.0%
Caerdydd – tros y mis +0.6%; tros y flwyddyn -1.1%
C.Nedd PortTalbot – tros y mis -1.2%; tros y flwyddyn -7.3%
Ceredigion – tros y mis -0.9%; tros y flwyddyn +5.0%
Conwy – tros y mis +0.0%; tros y flwyddyn +5.6%
Rhondda CT – tros y mis +0.5%; tros y flwyddyn -4.7%
Sir Gâr – tros y mis +0.8%; tros y flwyddyn -2.7%
Sir Benfro – tros y mis -1.8%; tros y flwyddyn -5.7%
Sir y Fflint – tros y mis +2.5%; tros y flwyddyn -2.6%
Torfaen – tros y mis -0.1%; tros y flwyddyn -7.8%
Ynys Môn – tros y mis +3.2%; tros y flwyddyn -5.2%