Yn ôl y disgwyl, mae’r capten Craig Bellamy wedi cael ei gadw o garfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Sweden yn Stadiwm Liberty nos Fercher.
Er bod rhai’n codi amheuon am ddyfodol rhyngwladol y blaenwr o Man City, mae’n ymddangos ei fod yn cael ei orffwys er mwyn arbed ei ben-glin.
Roedd wedi rhoi rhybudd na allai chware cymaint o gemau ac mae’n ymddangos bod rheolwr Cymru, John Toshack, wedi gwrando arno.
Bellach, yr ymosodwyr yn y garfan yw Sam Vokes, Ched Evans, Simon Church, Rob Earnshaw a David Cotterill, sydd i gyd yn chwarae yn y Bencampwriaeth.
Bydd Toshack yn awyddus i ddatblygu partneriaethau ar gyfer y dyfodol, ac mae’r hyfforddwr yn ystyried partneriaeth Church ac Evans yn un addawol iawn.
Sêr addawol
Mae dau o sêr mwyaf addawol yr Uwch Gynghrair, Aaron Ramsey a Jack Collison – wedi cael eu dewis ymysg y chwaraewyr canol cae.
Fe fydd yna hefyd gyfle i Andy Dorman o St Mirren yn yr Alban i ennill ei gap gyntaf dros Gymru, ar ôl aros ar y fainc yn erbyn yr Alban y llynedd.
Mae’r amddiffynwyr, James Collins o Aston Villa a Gareth Bale o Spurs, wedi cael eu cynnwys yn y garfan ynghyd ag amddiffynnwr Abertawe, Ashley Williams.
Dau golwr sy’n cystadlu am y crys rhif un, sef Wayne Hennessey o Wolves a Boaz Myhill, sydd wedi bod ar ei orau’n ddiweddar tros Hull.
Carfan Cymru
Golwyr- Wayne Hennessey (Wolves), Boaz Myhill (Hull City).
Amddiffynwyr- Gareth Bale (Tottenham Hotspur), James Collins (Aston Villa), Neal Eardley (Blackpool), Chris Gunter (Nottingham Forest), Craig Morgan (Peterborough Utd), Lewin Nyatanga (Bristol City), Sam Ricketts (Bolton), Ashley Williams (Abertawe).
Canol cae- Jack Collison (West Ham United), Andrew Crofts (Brighton), Simon Davies (Fulham), Andy Dorman (St.Mirren), Andy King (Leicester City), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Blackpool).
Ymosodwyr- Simon Church (Reading), David Cotterill (Abertawe), Robert Earnshaw (Nottingham Forest), Ched Evans (Sheffield Utd), Sam Vokes (Wolves).