Fe fydd ysgol yn Cadiz Sbaen yn dathlu 40 mlynedd ac yn cynnal ei phedwaredd Eisteddfod flynyddol y mis nesa’.
Mae’r Ganolfan Saesneg – ysgol i blant rhwng 2 a 18 yn ne Sbaen – yn gwahodd ysgolion yng Nghymru i gyfrannu at yr Eisteddfod lenyddol, gelfyddydol a cherddorol trwy yrru addurniadau Cymreig i’w defnyddio yn ystod y digwyddiad.
Mae sylfaenydd yr ysgol, Linda M. Randell, sy’n wreiddiol o Abertawe, wedi bod yn Andalusia ers mwy na 40 blynedd bellach a hi sy’n trefnu’r eisteddfod gyda mwy na 40 o weithgareddau ar gyfer tua 900 o ddisgyblion
“Mae’r Ganolfan Saesneg yn gobeithio dod â rhan fach o Gymru i gornel fechan yn ne Sbaen ac ar yr un pryd yn gobeithio addysgu disgyblion am draddodiadau diwylliannol gwlad arall,” meddai.
Cyfraniadau
Yn y gorffennol, mae’r Eisteddfod wedi derbyn pensiliau, posteri, fflagiau, cennin Pedr, llyfrau a dreigiau ac wedi’u defnyddio’n wobrau. Ond, oherwydd dirwasgiad, ddaeth dim y llynedd ac maen nhw felly yn galw am ragor o gymorth eleni.
“Mae’r cyfraniadau wedi gwella dealltwriaeth ein disgyblion o bobol Cymru a’r diwylliant Cymreig,” meddai Linda Randell.
Fe fu’r seren roc, Bonnie Tyler, ymweld â’r Eisteddfod y llynedd – maen nhw’n gymdogion ac yn ffrindiau, meddai Linda Randell, a hynny ers dyddiau’r Mwmbwls yn Abertawe.
Eisoes, mae’r Ganolfan wedi gefeillio gydag ysgolion yng Nglynebwy, Aberaeron a Chorwen.