Fe gynyddodd yr economi yng ngwledydd Prydain o ychydig mwy na’r disgwyl yn y tri mis cyn y Nadolig.
Ond mae economegwyr yn dal i rybuddio nad yw’r adfywiad yn sicr o barhau ac mae’r Ceidwadwyr yn galw eto am ddechrau torri ar wario cyhoeddus.
Yn ôl y ffigurau swyddogol, fe gynyddodd yr economi o 0.3% yn chwarter ola’ 2009 – gwell na’r 0.1% yn yr amcangyfri’ cynta’, ond yn is na’r 0.4% oedd wedi ei broffwydo’n wreiddiol.
Roedd tri o’r ffigurau pwysica’ a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau’n dangos cynnydd – yng nghynnyrch y sector gwasanaethau, yn y sector cynhyrchu ac mewn gwario gan deuluoedd.
Er hynny, fe ddaeth cadarnhad hefyd bod y dirwasgiad yn waeth na dirwasgiad yr 1980au ac fe gafwyd rhybudd bod yr adfywiad yn fregus.
Yr ymateb
Roedd ffigurau dechrau’r flwyddyn yma wedi cwympo eto – yn rhannol oherwydd effeithiau’r tywydd caled – ac fe ddywedodd yr economegydd, Jonathan Loynes, nad oedd y ffigurau’n cyfrannu llawer at leihau’r ofnau am y dyfodol.
Fe fydd ansicrwydd tros ganlyniadau’r etholiad a’i effeithiau hefyd yn mygu’r adfywiad, meddai James Knightley, o gwmni ariannol IMG.
Wrth groesawu’r cynnydd, fe ddywedodd llefarydd economaidd y Torïaid, George Osborne, bod hyn yn cefnogi safbwynt ei blaid ef – ei bod yn amser gweithredu i ddechrau delio gyda dyledion y Llywodraeth.