Fe fydd y Llywodraeth yn rhoi £1.9m i’r Ymddiriedolaeth Thalidomide yng Nghymru i helpu i ofalu am rai a ddioddefodd oherwydd effeithiau’r cyffur.

Mae’r arian ar gael o fis Ebrill ymlaen ac fe fydd yn cael ei rannu rhwng y dioddefwyr er mwyn cwrdd â’u hanghenion iechyd ac i geisio atal dirywiad pellach yn eu cyflwr.

Fe bwysleisiodd Carwyn Jones bod yr arian yn ychwanegol i £20 miliwn a gyhoeddwyd gan yr Adran Iechyd yn Llundain fis diwetha’.

Mae yna 31 o thalidomeiddiaid yng Nghymru – pobol a oedd wedi eu geni gydag anableddau mawr ar ôl i’w mamau ddefnyddio’r cyffur thalidomide i geisio atal salwch bore.

‘Gofal priodol’

“Bydd gan y thalidomeiddiaid yng Nghymru hawl ar ran o’r cyllid a gafodd ei gyhoeddi gan yr Adran Iechyd, ond roedden ni am ddarparu cyllid ychwanegol er mwyn sicrhau bod y bobl hynny gafodd eu heffeithio gan Thalidomide yng Nghymru yn derbyn y gefnogaeth a gofal priodol”, meddai Carwyn Jones.

Dywedodd Nick Dorbik, cynrychiolydd o’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar gyfer Ymddiriedolaeth Thalidomide, bod y gymuned Thalidomide yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth y Cynulliad am gyfrannu at “gynnal annibyniaeth” y goroeswyr.

‘Thalidomeiddiaid’ yw’r term y mae’r dioddefwyr eu hunain yn ei ddefnyddio i’w disgrifio’u hunain.