Mae bachwr Ffrainc wedi rhybuddio ei gyd-chwaraewyr i beidio â chymryd Cymru’n ganiataol pan fydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd yn Stadiwm y Mileniwm heno.

Ar ôl curo’r Alban ac Iwerddon yn eu dwy gêm gynta ym Mhencampwriaeth RBS y Chwe Gwlad, y Ffrancwyr yw’r ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth eleni, ac efallai’r Gamp Lawn.

“Y gair allweddol i ni yw canolbwyntio”, meddai William Servat. “Mae’n rhaid i ni baratoi’n iawn ar gyfer y gemau ac os nac ydi popeth yno fe allai fod yn anodd iawn.

“Rwy’n ymwybodol os na fyddwn ni’n perfformio’n debyg i’r hyn wnaethon ni yn erbyn Iwerddon, fe fyddwn yn colli yng Nghymru.

“Mae yna ddisgwyliadau mawr arnon ni; fe fydd yn gêm ffyrnig ac anodd iawn”, ychwanegodd Servat.

Fe gurodd Ffrainc Cymru yng Nghaerdydd yn 2004 cyn mynd ymlaen i gipio’r Gamp Lawn, ac mae Williams Servat yn gobeithio am ganlyniad tebyg heno.

“Fe enillodd y tîm yn 2004, ond ar hyn o bryd d’yn ni ddim wedi cyflawni dim byd.”