Mae cwmni Trenau Arriva Cymru wedi rhybuddio na fydd trenau ychwanegol ar gael i fynd â chefnogwyr rygbi o Gaerdydd ar ôl y gêm fawr heno.

Fe fydd pobol yn cael eu troi o orsaf y brifddinas unwaith y bydd trenau’n llawn ac mae Arriva’n awgrymu y dylai pobol wneud trefniadau eraill neu drefnu llety.

Gyda’r gêm yn debyg o orffen ychydig cyn deg y nos, fydd yna ddim gwasanaethau ychwanegol ar gael i ymdopi gyda’r miloedd o gefnogwyr.

Yn ôl Arriva Cymru, fe ddylai cefnogwyr fynd yn syth i’r orsaf drenau wedyn gyda llefydd ar y trenau’n cael eu cynnig yn ôl y cyntaf i’r felin.

“Y cyntaf i’r felin fydd yn cael y seddau, ac r’yn ni’n argymell i gwsmeriaid i fynd i’r orsaf cyn gynted ag sy’n bosib ar ôl y gêm,” meddai datganiad gan y cwmni.

“Bydd gwasanaethau’n cael eu cryfhau lle mae’n bosib, ond cyn gynted bydd trenau’n llawn, fe fydd rhaid i ni droi teithwyr i ffwrdd o orsaf Caerdydd.”

Fe fydd yna system giwio er mwyn ceisio cadw trefn ac mae’r cwmni hefyd yn argymell i deithwyr wisgo’n gynnes.

Rhybudd traffig hefyd

Cyn y gêm, mae gwasanaeth Traffig Cymru hefyd wedi rhybuddio bod oedi’n bosib ar draffordd y M4 wrth i gefnogwyr geisio cyrraedd mewn pryd.

Fe all hynny fod yn waeth os yw pobol yn penderfynu gyrru yn hytrach na mynd ar y trên.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn argymell i gefnogwyr ddefnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio yn ogystal â rhannu ceir er mwyn lleihau tagfeydd.

Mae mannau parcio a theithio ar gael oddi ar Gyffordd 33 yr M4 ar gost o £5. Bydd y safleoedd ar agor o 12.30pm tan ganol nos.

Llun: Gorsaf reilffordd Caerdydd