Mae dau Brydeiniwr yn dweud eu bod mewn sioc ar ôl deall bod tîm o derfysgwyr rhyngwladol wedi defnyddio’u pasborts wrth ladd un o arweinwyr milwrol y mudiad Palesteinaidd Hamas.

Mae Heddlu Dubai wedi enwi 11 o bobol y maen nhw’n credu oedd yn rhan o lofruddiaeth Mahmoud al-Mabhouh yno fis diwethaf – roedd yr 11 yn teithio ar drwyddedau Ewropeaidd.

Ers hyn, mae’r Swyddfa Dramor yn Llundain wedi dweud fod chwe phasbort ffug o Brydain wedi’u defnyddio.

Mae swyddogion yn Nulyn yn dweud nad oedden nhwthau wedi awdurdodi pasports yn enwau tri a oedd yn defnyddio dogfennau Gwyddelig.

Gwahaniaethau

Yr enwau ar y pasports Prydeinig oedd Michael Lawrence Barney, James Leonard Clarke, Jonathan Louis Graham, Paul John Keeley, Stephen Daniel Hodes a Melvyn Adam
Mildiner.

Er bod manylion fel enwau, rhifau a dyddiadau geni ar y pasborts yn cyd-fynd a’r trwyddedau teithio gwreiddiol, mae’r heddlu’n credu fod y ffotograffau a’r llofnodion ychydig yn wahanol.

Mae Melvyn Mildiner, 31, sy’n dal pasbort Prydeinig a phasbort Israelaidd yn dweud ei fod “mewn sioc” bod rhywun wedi defnyddio’i enw a’i fanylion.

‘Erchyll’

“Mae hyn yn erchyll,” meddai cyn ychwanegu, “dydw i erioed wedi bod i Dubai.”

Er bod enw a rhif trwydded teithio Melvyn Mildiner ar y pasbort ffug, roedd ei dyddiad geni’n wahanol.

“…Mae’r cyfan yn fy mhryderu, ond dw i’n gwybod nad ydw i wedi gwneud dim o’i le” meddai dyn arall sy’n hanu o wledydd Prydain, Paul Keeley, 42. Mae’n byw yng ngogledd Israel ers 15 mlynedd.

Cefndir

Cafodd Mahmoud al-Mabhouh, 49 oed, ei ladd ar 20 Ionawr yn ei ystafell mewn gwesty oriau ar ôl cyrraedd Dubai.

Fis diwethaf roedd Hamas wedi honni mai milwyr a swyddogion cudd o Israel oedd yn gyfrifol, am fod Mahmoud al-Mabhouh wedi lladd dau o filwyr Israel yn 1989.

Llun: Dubai