Mae diffoddwyr wedi llwyddo i reoli tân mawr mewn iard goed yng Nghasnewydd.
Fe fu’n rhaid galw saith o griwiau diffodd o ardaloedd eraill i ymladd y fflamau yn y ganolfan ym Mharc Manwerthu’r Maesglas.
Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru eu bod wedi eu galw allan ychydig wedi tri o’r gloch y bore.
Roedd llawer iawn o goed a darnau o bren ar dân erbyn hynny ac fe fu’n rhaid galw saith o griwiau eraill o’r Dyffryn, Maendy, Cwmbrân, Malpas, Aberdâr, Caerffili a’r Barri.
Yn ôl y llefarydd, doedd neb wedi ei anafu yn y digwyddiad.
Llun: Diffoddwr wrth ei gwaith (Gwefan Gwasanweth De Cymru)