Plymouth Argyle 1 Abertawe 1
Am yr ail dro o fewn tridiau, fe gollodd Abertawe ddau bwynt yn y munudau ola’.
Ac roedd yna ddadlau am y gôl a ddaeth â Plymouth Argyle yn gyfartal gyda dim ond tri munud yn weddill.
Ddwywaith, fe lwyddodd gôl geidwad yr Elyrch, Dorus de Vries, i arbed cic gosb – y tro cynta’ fe ddywedodd y dyfarnwr bod rhaid ei chymryd eto; yr ail dro, fe sgoriodd Damien Johnson pan ddaeth y bêl yn ôl ato.
Yn ôl y ref, roedd y goli o’r Iseldiroedd wedi symud oddi ar ei linell cyn arbed y gic gynta’, ond roedd rheolwr Abertawe’n gandryll am y penderfyniad sy’n eu cadw yn bedwerydd yn y Bencampwriaeth.
“Dw i wedi edrych ar y fideo sawl tro ac roedd troed Dorus yn amlwg ar y llinell,” meddai Paulo Sousa. “Fe wnaeth e ddau arbediad ardderchog.”
Rheoli’n llwyr
Fel y gwnaethon nhw yn erbyn Newcastle ddydd Sadwrn, roedd Abertawe wedi rheoli’r gêm yn llwyr ac wedi aros ar y blaen tan y diwedd.
Roedden nhw wedi sgorio yn fuan ar ôl hanner amser trwy Darren Pratley ac wedi cael ambell i gyfle arall i gladdu’r tîm o Ddyfnaint sydd tua gwaelod y Bencampwriaeth.
Roedd Sousa’n feirniadol o berfformiad y dyfarnwr a hefyd o safon y cae – roedd hynny, meddai, wedi ei gwneud hi’n anodd i’r Elyrch chwarae eu gêm basio arferol.
Llun: Dorus de Vries – arbed cic o’r smotyn, ddwywaith