Caerdydd 1 West Bromwich Albion 1

Fe ddylai West Bromwich Albion fod wedi chwarae’r rhan fwya’ o’u gêm yn erbyn Caerdydd neithiwr gyda dim ond deg dyn.

Dyna haeriad rheolwr yr Adar Glas ar ôl iddyn nhw gael gêm gyfartal gartre’ yn erbyn y tîm sy’n arwain y Bencampwriaeth.

Ond, yn y diwedd, meddai Dave Jones, roedd y canlyniad yn un teg gyda dau dîm blinedig “fel dau baffiwr yn dyrnu ei gilydd”.

Fe gafodd Caerdydd gyfle ardderchog ar y diwedd, meddai, ond fe gafodd West Brom ambell i hanner siawns hefyd.

“Does gen i ddim byd ond canmoliaeth i’r bechgyn,” meddai Dave Jones. “Maen nhw’n gwneud eu gorau glas ac mae’r cefnogwyr yn gweld hynny ac yn eu cefnogi’n llawn.”

‘Carden goch’

Roedd Caerdydd wedi mynd ar y blaen ar ôl dim ond saith munud. Fe gafodd y blaenwr Jay Bothroyd ei wthio yn y bocs ac fe sgoriodd Peter Whittingham gyda’r gic o’r smotyn.

Ond, yn ôl Dave Jones, fe ddylai amddiffynnwr West Brom, Jonas Olsson, fod wedi cael carden goch – roedd Bothroyd yn mynd am y gôl, meddai’r rheolwr, ac Olsson oedd y dyn ola’.

“Fe fyddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth,” meddai Jones, sy’n dweud ei fod yn dal i anelu am le yn y ddau ucha’ a dyrchafiad awtomatig i’r Uwch Gynghrair.

Pebai Caerdydd wedi aros ar y blaen tan yr hanner, fe fydden nhw wedi ennill, meddai wedyn, ond fe gafodd Gianni Zuiverloon gôl anniben ychydig funudau cyn yr egwyl.

Mae Caerdydd wedi aros yn y pumed lle ar ôl y canlyniad neithiwr o flaen torf o fwy nag 20,000.

Llun: Peter Whittingham – sgoriwr Caerdydd