Mae rheolwr tîm pêl-droed lled-broffesiynol Cymru, Terry Boyle, wedi cynnwys dau wyneb newydd yn ei garfan i wynebu Portiwgal yn y Tlws Her Rhyngwladol.
Mae ymosodwr y Seintiau Newydd, Alex Darlington, wedi cael ei wobrwyo am ei berfformiadau diweddar ac mae amddiffynwr Altrincham, Rob Williams hefyd wedi cael ei gynnwys yn y garfan.
Fe fydd Lee Surman yn dychwelyd i’r garfan ar ôl i anaf ei atal rhag chwarae yn y gêm gyfartal yn erbyn Gogledd Iwerddon ym mis Tachwedd y llynedd.
Mae Michael Johnston o Fangor a chwaraewr Dorchester Utd, Kyle Critchell hefyd yn ail ennill eu lle yn y garfan.
Dau wedi eu gwahardd
Ond mae amddiffynnwr Castell-nedd, Sean Cronin ynghyd a chefnwr Airbus UK, Ryan Edwards yn absennol oherwydd gwaharddiadau.
Cofiwch y dyddiad
Fe fydd Cymru’n chwarae tîm lled-broffesiynol Portiwgal yn Stadiwm Fátima ar 3 Mawrth.
Carfan lled-broffesiynol Cymru
Golwyr – Lee Idzi (Hwlffordd); Stephen Cann (Aberystwyth)
Amddiffynwyr – Lee Surman (Port Talbot), Michael Johnston (Bangor), Kyle Critchell (Dorchester Utd), Rob Williams (Altricham), Curtis McDonald (Forest Green Rovers), Michael Pearson (Barrow)
Canol cae – Scott Barrow (Port Talbot), Craig Jones (Y Seintiau Newydd), Aeron Edwards (Y Seintiau Newydd), Drew Fahiya (Port Talbot), Luke Sherbon (Aberystwyth), Ashley Williams (Airbus UK)
Ymosodwyr – Jack Christopher (Hwlffordd), Craig Moses (Llanelli), Alex Darlington (Y Seintiau Newydd), Jamie Reed (Bangor)