Mae’r blaid Geidwadol yn bwriadu rhoi’r cyfle i bobol redeg eu hysgolion, eu canolfannau gwaith a’u timau nyrsio eu hunain fel cwmniau cydweithredol.

Dyma’r cam mwya’ o ran trosglwyddo pwer i’r gweithwyr ers i Margaret Thatcher roi’r hawl i bobol gael prynu eu tai cyngor eu hunain yn yr 1980au, meddai Canghellor yr Wrthblaid, George Osborne.

Fe fyddai’n golygu y gallai staff gwasanaethau sy’n cael eu hariannu gan drethdalwyr yn cael y rhyddid i benderfynu sut i redeg y gwasanaethau hynny, dim ond eu bod yn cadw at safonau Prydeinig.

Gweithwyr yn rheoli

“R’yn ni’n dweud wrth weithwyr sector cyhoeddus, os ydych chi am greu cydweithfeydd a chynnal gwasanaethau gwladol, fe allwch chi wneud hynny,” meddai George Osborne.

“Byddai gweithwyr sector cyhoeddus yn cymryd rheolaeth o’u hamgylchedd waith a symud oddi wrth y fiwrocratiaeth sydd wedi gwneud bywyd yn anodd i gymaint o bobol yn y sector cyhoeddus.”

“Deall dim”

Ond mae’r Blaid Gydweithredol wedi beirniadu polisi newydd y Ceidwadwyr.

“Mae sylwadau George Osborne yn dangos nad yw’r Torïaid yn deall dim am gydweithfeydd,” meddai’r ysgrifennydd cyffredinol, Michael Stephenson.

Fe lansiodd arweinydd y Torïaid, David Cameron, Mudiad Cydweithfeydd y Ceidwadwyr yn 2007, gan fynnu bod grwpiau o’r math yn ymgorffori gwerthoedd craidd y blaid a’i bod yn bryd eu hadennill oddi ar yr asgell chwith.