Mae Prydain a Ffrainc wedi galw am ymchwiliad rhyngwladol i’r trais a ddigwyddodd yn Iran yn dilyn etholiad arlywyddol y wlad y llynedd.
Mae’r ddwy wlad yn dweud y dylai Iran ganiatáu i banel rhyngwladol ymchwilio’r gwrthdaro a ddigwyddodd ar strydoedd y brifddinas, Tehran, ar ôl i’r arlywydd Mahmoud Ahmadinejad gael ei ail-ethol ym mis Mehefin 2009.
Fe ddaeth yr alwad o bencadlys Ewrop y Cenhedloedd Unedig yn Genefa, yn ystod arolwg gan Gyngor Hawliau Dynol y CU i hanes hawliau dynol yn Iran.
Gwrthod beirniadaeth
Mae Iran yn gwrthod unrhyw feirniadaeth, gan ddweud bod cyfansoddiad Islamaidd y wlad yn amddiffyn hawliau dynol.
Ond mae sefydliadau hawliau dynol wedi beirniadu Iran am eu record o ddienyddio pobol ifanc; am rwystro rhyddid barn ac am gyfyngu ar hawliau merched a lleiafrifoedd.
Etholiad 2009
Fe fu miliynau o bobol yn protestio ar strydoedd Iran yn dilyn yr etholiad arlywyddol, gan eu bod yn credu fod Mahmoud Ahmadinejad wedi ei ail-ethol trwy dwyll.
Fe fu gwrthdaro rhwng y protestwyr a gwasanaethau diogelwch Iran, ac fe gafodd rhai eu harestio. Mae mudiadau hawliau dynol yn honni bod nifer wedi cael eu curo, a rhai wedi cael eu lladd yn ystod y gwrthdaro.