Fe fydd gwraig fferm o Lanuwchllyn yn ysgrifennu, dylunio a dosbarthu cylchgrawn newydd Cymraeg o Fawrth 1 eleni.
Fe fydd yr holl waith ar y cylchgrawn WA-w! yn cael ei wneud gan Lowri Rees-Roberts, 36 ar ei chyfrifiadur yn Nolhendre Isa, Llanuwchllyn, ger Y Bala. Fe fydd hi hyd yn oed yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith dosbarthu yn ei char ei hun.
“Dydw i ddim yn siŵr os ydi hi’n fore, pnawn neu nos ar hyn o bryd,” meddai Lowri Rees-Roberts wrth baratoi’r rhifyn cyntaf erbyn Mawrth 1 a disgrifio’r prosiect fel “llafur cariad”.
“Dw i wedi creu swydd i fi’n hun, achos mae’n amhosib i mi fynd allan i weithio,” meddai’r fam i dri o blant 11, 8 a 2 oed.
Dim cystadleuaeth
Fydd WA-w! ddim yn cystadlu gyda’r un cyhoeddiad Cymraeg sy’n bod yn barod, meddai Lowri Rees-Roberts. Er ei bod hi’n canolbwyntio ar straeon lleol yn bennaf, ei breuddwyd, meddai, yw “mynd yn genedlaethol”.
Fe gyhoeddodd Lowri Rees-Roberts rifyn peilot o’r cylchgrawn misol, a fydd yn costio £2 y rhifyn, yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala y llynedd. Roedd hynny gyda chymorth ariannol o £1,200 gan gorff Annog.
Hysbysebion fydd yn talu am hanner y gost argraffu o hyn allan, meddai, ac mae disgwyl i werthiant dalu am yr hanner arall.
“Dw i ddim yn disgwyl gwneud dim pres o’r peth i ddechrau,” meddai Lowri Rees-Roberts.
Ysbrydoliaeth
Fe wnaeth Lowri Rees-Roberts fwynhau ei chyfnod ar staff papur newydd Y Cymro yn arw.
“Roedden ni’n cael mynd allan a gwneud straeon, cyfarfod pobol,” meddai cyn dweud fod newyddiaduraeth wedi “newid bellach” gyda llawer o newyddion caled, “digalon.”
“Dw i’n licio’r syniad ac yn dal i gredu mewn cael rhywbeth mewn print eto. Does gan lot fawr o bobol ddim cysylltiad â’r we.
“Dydw i ddim isio troi rownd yn 60 a meddwl, bechod na wnes i rywbeth o’n i eisio ei wneud.”