Mae rheolwr Abertawe, Paulo Sousa, wedi canmol ei dîm ar ôl i’r Elyrch guro Crystal Palace yn Selhurst Park am y tro cyntaf mewn 90 mlynedd.
Fe sgoriodd ymosodwr newydd Abertawe, Shefki Kuqi, unig gôl y gêm yn erbyn ei gyn glwb i gadw’r Elyrch yn y pumed safle yn y Bencampwriaeth.
“Roedd yn gêm anodd ac mae’n fuddugoliaeth bwysig. Mae wastad yn anodd chwarae pêl-droed da yn Crystal Palace,” meddai Sousa.
“Roedd y tîm yn drefnus iawn a sicrhaodd hynny’r cyfle i ni ennill y gêm. Mae hyn wedi dangos bod y tîm yn aeddfedu, fel unigolion ac fel carfan”
Cadarn
Mae Paulo Sousa yn credu bod amddiffyn cadarn Abertawe yn allweddol i sicrhau cysondeb yn eu chwarae a’u canlyniadau.
“R’yn ni’n ymdopi’n well o dan bwysau ac yn llawer mwy cyson,” meddai. “Er mwyn ennill gemau mae’n rhaid aros yn gadarn a chanolbwyntio trwy’r amser- fe wnaethon ni hynny yn Crystal Palace.”
Ar ôl y gêm, fe ddywedodd rheolwr Crystal Palace, Neil Warnock, mai Abertawe oedd y tîm gorau iddyn nhw eu chwarae eleni.
Llyn: Paulo Sousa – “aeddfedu”