Mae gan Gaerdydd broblemau gydag anafiadau cyn eu gêm fawr yn erbyn Chelsea ddydd Sadwrn.
Fe gafodd dau chwaraewr allweddol eu brifo yn y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Peterborough yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr.
Cafodd Stephen McPhail ei gludo i’r ysbyty ar ôl dioddef anaf i’w asennau ac mae’r ymosodwr, Jay Bothroyd wedi anafu ei bigwrn. Roedd rhaid i’r chwaraewr canol cae, Darcy Blake, hefyd adael y cae gydag anaf i’w gefn.
Daw hyn yn ergyd i’r Adar Glas wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Chelsea yn pumed rownd y Cwpan FA yn Stamford Bridge dydd Sadwrn.
Jones – ‘ystyried dod â sgidiau’
“Does dim syniad gyda ni pwy fydd yn chwarae yn erbyn Chelsea dydd Sadwrn,” meddai rheolwr Caerdydd, Dave Jones. “R’yn ni’n brin o bobol ar hyn o bryd. Rwy’n ystyried dod ag esgidiau gyda fi.”
Yn ychwanegol at yr anafiadau diweddara’, fe ddywedodd Dave Jones bod Michael Chopra a Gabor Gyepes yn teimlo’n anhwylus.
Mae’r rheolwr wedi canmol ei garfan am chwarae ymlaen trwy anafiadau a salwch a chadw eu lle yn y safleoedd ail gyfle yn y Bencampwriaeth.
“Mae’r chwaraewyr wedi bod yn wych gan ddangos cymeriad a phenderfyniad”, meddai Jones.
‘Perfformiad disgybledig’
Roedd Dave Jones yn hapus iawn gyda pherfformiad Caerdydd yn erbyn Peterborough neithiwr – er bod y clwb o Loegr ar waelod y tabl.
“Roedd yn berfformiad disgybledig. Un siawns yn unig a gafodd Peterborough ac arbedodd Dave Marshall honno.”
“Ro’n yn gwybod pe bai pawb yn cadw ei disgyblaeth a’u siâp, y byddai’r goliau’n dod.
“Mae’n fuddugoliaeth dda a chyfforddus i ni, ac mae hynny’n plesio oherwydd, yn y gorffennol fe allen ni fod wedi cael gêm gyfartal neu hyd yn oed golli oherwydd diffyg canolbwyntio.”
Llun: Stephen McPhail – wedi anafu