Dyw gwledydd Prydain ddim yn barod ar gyfer problemau prinder olew, yn ôl grŵp o arweinwyr byd busnes.

Maen nhw’n rhybuddio y bydd y trafferthion yn dechrau o fewn cyn lleied â phum mlynedd, gyda phrinder a chynnydd mawr ym mhris olew.

Mae’r grŵp, sy’n cynnwys penaethiaid cwmnïau trafnidiaeth fel Syr Richard Branson a chwmnïau ynni, yn rhybuddio y gallai’r problemau fod yn waeth nag effaith yr argyfwng ariannol.

Ymhlith pethau eraill, maen nhw’n awgrymu codi trethi ar hedfan awyrennau.

‘Angen paratoi’

Fe ddylai’r Llywodraeth fod yn paratoi cynlluniau brys ym maes trafnidiaeth, siopa, ffermio ac ynni, meddai’r Gweithgor Diwydiant ar gyfer Anterth y Cyflenwad Olew a Sicrwydd Ynni.

Fel arall, medden nhw, “fe fydd sefyllfa’n codi o fewn tymor y llywodraeth nesaf pan fydd ansefydlogrwydd pris tanwydd yn gallu arwain at brinder nwyddau a bygythiad i gyflenwad ynni’r Deyrnas Unedig”.

“Bydd gallu’r Deyrnas Unedig i gystadlu’n cael ei lesteirio os na allwn ddatblygu ffynonellau fforddiadwy a thymor hir o ynni amgen,” meddai’r adroddiad.

Bygythiad i drafnidiaeth

Fe fydd bygythiad arbennig i faes trafnidiaeth, medden nhw, a hynny’n cael effaith ychwanegol ar sectorau eraill, fel yr archfarchnadoedd a chwmnïau cynhyrchu.

Maen nhw’n argymell trydaneiddio rheilffyrdd a dileu’r fantais dreth o £9 biliwn sydd gan y diwydiant hedfan awyrennau er mwyn defnyddio’r arian ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Richard Branson yw sylfaenydd cwmni Virgin, sy’n cynnal gwasanaethau trên ac awyren.

Y ddadl

Mae’r grŵp yn seilio’u rhybudd ar y gred bod olew’n prinhau a bod cyflenwad y byd wedi cyrraedd ei anterth ac y bydd hi’n mynd yn ddrutach i’w dynnu o’r ddaear.

Ar y llaw arall, mae rhai gwyddonwyr a chwmnïau olew yn mynnu bod digonedd o danwydd ar gael.

Er hynny, fe allai olygu codi’r olew o ardaloedd sy’n amgylcheddol sensitif, fel y pegynau.