Fe fydd cynghorau sir yn cael eu gorfodi i gyfri pleidleisiau’r Etholiad Cyffredinol ar noson y bleidlais.

Roedd mwy a mwy wedi bwriadu gohirio’r cyfri tan y bore wedyn ond mae’r Llywodraeth bellach wedi ymyrryd.

Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Jack Straw, eu bod yn cefnogi cynnig gan y Ceidwadwyr i fynnu bod y cyfri’n dechrau o fewn pedair awr i gau’r bythau.

Condemnio

Roedd 220 o ASau wedi arwyddo cynnig-ben-bore yn condemnio’r duedd.

Yn ôl Jack Straw, roedd swyddogion etholiadau’r cynghorau’n bwriadu gohirio’r cyfri “er eu hwylustod nhw eu hunain a neb arall”.

Wrth ei ganmol am gefnogi’r cynnig, fe ddywedodd llefarydd y Ceidwadwyr, Eleanor Laing, y byddai gohirio’r cyfri yn dileu “cyffro’r digwyddiad”.

Gwelliant

Fe fydd yr orfodaeth yn dod trwy welliant yn y Mesur Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu sy’n mynd trwy’r Senedd ar hyn o bryd.

Dim ond mewn “amgylchiadau eithriadol” y byddai cynghorau’n cael gohirio’r cyfri tan y bore wedyn, ond fe allai hynny ddigwydd os bydd angen ail gyfri.

Mae rhai etholaethau gwledig iawn – fel Brycheiniog a Maesyfed yng Nghymru – wedi bod yn cyfri yn y bore, oherwydd yr amser y mae’n ei gymryd i’r blychau pleidleisio gyrraedd o’r rhannau mwy anghysbell.

Llun: Jack Straw’n cefnogi cynnig gan y Ceidwadwyr